Literary Atlas compact logo

Cwestiynau Cyffredin

  1. Beth yw'r Atlas Llenyddol?
  2. Sut mae'r Atlas Llenyddol yn mapio nofelau?
  3. Pam mapio nofel?
  4. Sut y dewiswyd y nofelau?
  5. Sut gallaf ddefnyddio'r Atlas Llenyddol?
  6. Sut gallaf gyfrannu at yr Atlas Llenyddol?
  7. Pwy yw tîm yr Atlas Llenyddol?
  8. Sut gallaf gysylltu â'r Atlas Llenyddol neu ei ddilyn?

Beth yw'r Atlas Llenyddol?

Atlas ar-lein rhyngweithiol yw'r Atlas Llenyddol o nofelau Saesneg sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.

Mae'r Atlas Llenyddol yn cynnwys mapiau sy'n dod o hyd i brif leoliadau daearyddol yr holl nofelau Saesneg yng nghronfeydd Cymru Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archwilio'r lleoliadau hyn.

Mae'r Atlas Llenyddol yn cynnwys mapiau 'pell' a mapiau 'dwfn' sy'n lleoli'r holl gyfeiriadau daearyddol (neu 'bwyntiau plot') mewn deuddeg nofel Saesneg sydd wedi'u lleoli yng Nghymru yn bennaf.

Mae'r Atlas Llenyddol yn cynnwys 'mapiau' artistig o'r deuddeg nofel hyn sy'n cynnig dehongliadau unigryw a phryfoclyd o'r hyn y gallem ei alw'n 'ddaearyddiaeth lenyddol' y llyfrau hyn.

Mae'r Atlas Llenyddol yn cynnwys mapiau sy'n lleoli holl blaciau glas yr awduron sy'n coffáu'r cysylltiadau rhwng safleoedd daearyddol penodol ac awduron enwog o Gymru.

Trwy ddefnyddio amrywiadau 'pell', 'dwfn' ac 'artistig' ar fapiau, mae'r Atlas Llenyddol yn gobeithio ysgogi dealltwriaeth newydd ynghylch llenyddiaeth a lleoliad a natur ddaearyddol y cyflwr dynol.

Sut mae'r Atlas Llenyddol yn mapio nofelau?

Er mwyn mapio prif leoliadau daearyddol yr holl nofelau Saesneg yng nghronfeydd data casgliadau Cymru Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, daethpwyd o hyd i bob llyfr yn y llyfrgelloedd unigol, amlygwyd eu prif leoliad, a phlotiwyd y cyfeiriad daearyddol hwn ar fap digidol.

Er mwyn mapio'r holl gyfeiriadau daearyddol (neu 'bwyntiau plot') mewn deuddeg nofel Saesneg sydd wedi'u lleoli yng Nghymru yn bennaf, darllenwyd pob nofel a ddewiswyd, a chofnodwyd yr holl gyfeiriadau daearyddol. Yna, troswyd y rhain yn gyfesurynnau hydred a lledred, ac fe'u plotiwyd ar fap digidol. Gellir gweld y mapiau 'pell' hyn o bwyntiau plot yma (pob pwynt plot) ac yma (mapiau cwmpas).

Crëwyd mapiau 'dwfn' o'r deuddeg nofel hyn hefyd. Mae'r mapiau dwfn hyn yn ychwanegu at y pwyntiau plot gydag amrywiaeth o ddeunyddiau atodol i 'ddyfnhau' dealltwriaeth o'r berthynas rhwng llenyddiaeth a daearyddiaeth. Mae'r deunyddiau atodol hyn yn cynnwys: detholiadau o'r nofelau a ddewiswyd, detholiadau o gyfweliadau ag awduron ac arbenigwyr; detholiadau sain o'r nofelau a ddarllenwyd gan yr awdur a thîm yr Atlas Llenyddol; delweddau stryd o leoliadau'r nofel; mapiau hanesyddol a chyfoes o leoliadau'r nofel; lluniau a ffilmiau yn gysylltiedig â safleoedd y nofel (hanesyddol a chyfoes); a sylwadau gan dîm yr Atlas Llenyddol.

Gall defnyddiwr yr Atlas Llenyddol lywio trwy'r mapiau dwfn hyn yn annibynnol, ond maen nhw hefyd wedi'u curadu'n 'llinellau plot' penodol. Llwybrau awgrymedig trwy 'dirwedd' lenyddol a daearyddol y nofel yw'r llinellau plot hyn, sy'n taflu goleuni ar 'blot' y ddau. Bydd defnyddiwr yr Atlas Llenyddol yn gallu dewis llinell blot ar gyfer nofel benodol a 'sgrolio' trwy ei map dwfn i gael dealltwriaeth newydd o'r berthynas rhwng llenyddiaeth a daearyddiaeth. Mae'n bosibl dilyn y llinellau plot hyn ar gyfrifiadur, dyfais lechen neu ffôn clyfar mewn unrhyw leoliad – sy'n galluogi'r defnyddiwr i ymgysylltu â'r llwybrau hyn ar ffurf rithwir, a'u cerdded go iawn.

Pam mapio nofel?

Mae'r Atlas Llenyddol yn mapio nofelau Saesneg sydd wedi'u lleoli yng Nghymru er mwyn edrych o'r newydd ar y ffyrdd y mae llenyddiaeth yn cyfrannu at y cysylltiad rhwng pwy ydym ni fel unigolion a grwpiau, a'r lleoliadau daearyddol sy'n helpu i ffurfio'r hunaniaethau hyn.

Gyda lwc, bydd yr Atlas Llenyddol hefyd yn dathlu a hyrwyddo ansawdd, cryfder ac amrywiaeth nofelau Saesneg sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, yn annog pobl i ddarllen y rhain a llyfrau eraill, a chael eu hysbrydoli i ymweld â'r lleoliadau y mae'r straeon hyn wedi'u gosod ynddynt.

Sut y dewiswyd y nofelau?

Fel y mae'r mapiau o'r holl nofelau yng nghronfeydd data Casgliadau Cymru yn ei awgrymu, mae llawer o lyfrau Saesneg sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae'r Atlas Llenyddol wedi dewis deuddeg nofel i'w mapio mewn ffordd 'bell', 'ddofn', ac 'artistig'. Dewiswyd y nofelau hyn ar sail y meini prawf canlynol:

  • Rhaid bod y naratif wedi'i osod yng Nghymru, gyda lle neu ranbarth penodol yng Nghymru yn ganolog iddo.
  • Rhaid bod y llyfr wedi'i ysgrifennu'n wreiddiol yn Saesneg. Mae yna draddodiad llenyddol Saesneg cyfoethog ac unigryw sy'n werth ei astudio fel maes yn ei hun. Ni fwriedir i'r maen prawf hwn fychanu'r cyfoeth o lenyddiaeth Gymraeg mewn print. Petai hwn yn atlas cynhwysfawr o'r Gymru lenyddol, byddai'n rhaid cynnwys ysgrifennu a llenyddiaeth Cymraeg yn y ddwy iaith heblaw'r nofel. Gellir ymestyn yr atlas i gynnwys Cymraeg neu ieithoedd eraill yn y dyfodol.
  • Mae'n rhaid i'r llyfrau fod yn weithiau ffuglen, a bod ar ffurf nofel. Penderfyniad cwmpasu pragmatig oedd hwn er mwyn i ni allu darparu ffocws eglur ar gyfer yr Atlas Llenyddol, a chynnig lle i ehangu'r safle i ddramâu, cerddi, straeon byrion neu weithiau ffeithiol yn y dyfodol.
  • Dylai'r nofelau gynnig croestoriad o wahanol genres, a chynrychioli gwahanol gyfnodau yn hanes llenyddiaeth Saesneg Cymru.
  • Dylai'r nofelau gynnig cwmpas daearyddol mor eang â phosibl.
  • Dylai'r nofelau gynrychioli amrywiaeth eang o awduron sy'n weithredol yng Nghymru (o ran rhyw, ethnigrwydd, oedran ac ati). Nid oes rhaid i'r llyfr fod wedi'i ysgrifennu gan awdur a anwyd yng Nghymru.

Dylai'r rhestr derfynol gynnwys awduron cyfoes yn ogystal â ffuglen 'glasurol' Gymreig er mwyn tynnu sylw at ddeunyddiau newydd ochr yn ochr â gwaith sefydledig. Gan ddefnyddio'r meini prawf hyn, ymgynghorodd dîm yr Atlas Llenyddol ag amrywiaeth o arbenigwyr llenyddol ac academaidd yng Nghymru, yn ogystal â gofyn i'r cyhoedd gynnig eu dewisiadau eu hunain i ddethol ohonynt. Lluniwyd rhestr hir o nofelau o gronfeydd data Casgliadau Cymru, ac o'r rhestr hir hon, dewiswyd rhestr fer o ddeuddeg.

Mae'r rhestr hir yn cynnwys yr awduron canlynol: Tom Bullough, Nikiti Lalwani, Gwyneth Lewis, Owen Sheers, Sean Burke, John Williams, Tom Anderson, Tessa Hadley, Niall Griffiths, Malcolm Pryce, Richard Collins, Grahame Davies, Amy Dillwyn, Allen Raine, Hilda Vaughan, Owen Sheers, Iain Sinclair, Gwyn Thomas, Catrin Dafydd, Raymond Williams, Ron Berry, Lloyd Jones, Sian James, Cynan Jones, Fflur Dafydd, Rachel Tresize, Tristan Hughes, Emyr Humphreys, Joe Dunthorne, Christopher Meredith, Stevie Davies, Erica Wooff, Dan Rhodes, Catherine Merriman, Lewis Jones, Menna Gallie, Bruce Chatwin, Glyn Jones, Dannie Abse, Rhys Davies, Trezza Azzopardi, Arthur MachenDuncan Bush, Richard Llewellyn, Alexander Cordell, Alan Garner, A J Cronin, …

Sut gallaf ddefnyddio'r Atlas Llenyddol?

Llywiwch drwy'r safle, gan ddilyn awduron neu lyfrau sydd o ddiddordeb i chi, a darganfod (neu ailddarganfod) Cymru drwy ei nofelau Saesneg cyfoes a hanesyddol.

Sut gallaf gyfrannu at yr Atlas Llenyddol?

'Dogfen fyw' yw'r Atlas Llenyddol, ac felly mae tîm yr Atlas Llenyddol yn croesawu eich sylwadau. Rhowch wybod i ni ba deitlau newydd yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnwys yn yr Atlas Llenyddol, awgrymwch neu cyfrannwch ddeunyddiau y gellid eu hychwanegu at linellau plot presennol (e.e. delweddau, hanesion, ffilmiau), neu ychwanegwch eich llenyddiaeth eich hun at y safle trwy gyfrannu microffuglen (neu stori fer o ddim mwy na 200 o eiriau) sydd wedi'i lleoli yng Nghymru. Gallwch gysylltu â thîm yr Atlas Llenyddol drwy ebost .

Pwy yw tîm yr Atlas Llenyddol?

Arweinir tîm yr Atlas Llenyddol gan yr Athro Jon Anderson (Prifysgol Caerdydd) a'r Athro Kirsti Bohata (Prifysgol Abertawe), gyda Dr Kieron Smith a Dr Jeffrey Morgan (Prifysgol Caerdydd). Yr Athro Damian Walford Davies (Prifysgol Caerdydd) yw Mentor Academaidd y prosiect. Mae Llenyddiaeth Cymru yn un o bartneriaid yr Atlas Llenyddol, ynghyd â Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD). Ariennir yr Atlas Llenyddol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Sut gallaf gysylltu â'r Atlas Llenyddol neu ei ddilyn?

Cadwch i'r funud gyda'r Atlas Llenyddol ar Twitter .